Trosolwg o’r Cwrs Ffotograffiaeth UG/Uwch

Yn y clip ffilm hwn, mae Ivan Davies, Prif Arholwr TAG yn siarad ag Amelia Kilvington, y Ffotograffydd Proffesiynol, Athro a Safonwr Ffotograffiaeth am strwythur y cwrs y mae hi wedi’i fabwysiadu’n llwyddiannus yn ei chanolfan ar gyfer y rhaglen Ffotograffiaeth UG. Mae Amelia yn sôn am ei hymagwedd at ddysgu, gan roi sylw i’r amcanion asesu, y deunyddiau, y prosesau a’r dulliau cyflwyno y mae ei myfyrwyr yn eu defnyddio. Hefyd mae hi’n egluro sut mae hi’n trefnu’r Arholiad Ymarferol neu’r Cyfnod Ffocws ar gyfer ART2 (ac ART4) er mwyn sicrhau bod y sesiynau arholiadau’n brofiadau cadarn ac ystyrlon ac ar yr un pryd yn ymestyn potensial ymgeiswyr i’r eithaf.

 

Trosolwg o’r Cwrs Ffotograffiaeth Safon Uwch 

Yn y clip ffilm hwn, mae Ivan Davies, Prif Arholwr TAG yn siarad ag Amelia Kilvington, y Ffotograffydd Proffesiynol, Athro a Safonwr Ffotograffiaeth am y dulliau a strwythur y cwrs y mae hi wedi’u mabwysiadu’n llwyddiannus yn ei chanolfan ar gyfer y rhaglen Ffotograffiaeth Safon Uwch. Mae Amelia’n egluro’n fanwl gydag enghreifftiau sut mae hi’n addysgu dadansoddi cyd-destunol, ac yn benodol, sut mae ei myfyrwyr yn dysgu darllen delweddau, ysgrifennu amdanyn nhw a’u perthnasu nhw â’u gwaith eu hunain. Hefyd mae trafodaeth ddefnyddiol ar ddehongli a chymhwyso’r Amcanion Asesu mewn perthynas â Ffotograffiaeth Safon Uwch, yr Ystafell dywyll a’r Prosesau digidol y mae ei myfyrwyr yn eu defnyddio a sut mae lleoliadau gwaith ac amser ac ymwneud ychwanegol yn gallu cael effaith gadarnhaol ar ansawdd yr uned/au.