Eiriolaeth Celf a Dylunio

Mae amrywiaeth celf, crefft a dylunio wedi ehangu yn ystod y blynyddoedd diwethaf er mwyn cynnwys amrywiaeth ddigyffelyb o arbenigeddau a sgiliau, gan gynnwys nifer gynyddol o yrfaoedd lle defnyddir y dechnoleg ddigidol ddiweddaraf i ategu sgiliau traddodiadol.

Mae’r diwydiannau creadigol, sy’n cynnwys y celfyddydau gweledol, crefftau a dylunio, yn un o lwyddiannau mawr Prydain. Yn 2013, roedd un o bob deuddeg o swyddi yn y Deyrnas Unedig yn rhan o’r economi greadigol – 2.62 miliwn o bobl. Daeth 66 mil o swyddi ychwanegol i’r sector rhwng 2012 a 2013, cyfradd uwch nag ar gyfer economi’r DU yn gyffredinol. Rhwng 1997 a 2013, cynyddodd cyflogaeth yn yr economi greadigol o 1.81m o swyddi i 2.62m o swyddi – cynnydd a oedd fwy neu lai bedair gwaith yn fwy na’r cynnydd yn yr economi’n gyffredinol.

Canolbwynt ar Eiriolwr

Mae Ken Robinson yn eiriolwr pwerus dros addysg Celf, Crefft a Dylunio a chewch amrywiaeth o erthyglau, fideos a phodlediadau diddorol, llawn gwybodaeth ac ysbrydoledig ar ei wefan.

http://sirkenrobinson.com/