Cysylltau gyrfaoedd

Yn ogystal â’r cyfweliadau, rydym ni wedi creu rhestr o wefannau sy’n cynnig syniadau a gwybodaeth am yrfaoedd a chyfleoedd yn y diwydiannu creadigol.

  • 4talent

    Gwefan Channel 4 ar yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol. Nod 4 Talent yw helpu pobl fel chi i gael dyfodol disglair yn y cyfryngau.

    4talent.channel4.com

  • AOI images

    Yr Association of Illustrators Images yw prif gystadleuaeth ddarlunio’r DU, gyda seremoni wobrwyo flynyddol ac arddangosfa deithiol. Mae’n dangos y gorau o ddoniau darlunio newydd Prydain.

    www.aoiimages.com

  • art 21

    Gwefan celf gyfoes fawr sy’n cynnwys casgliad helaeth o bortreadau fideo byr o artistiaid lle maen nhw’n datgelu eu dulliau gweithio a’r hyn sy’n eu cymell yn eu geiriau eu hunain. Mae’r wefan yn cynnwys adnodd addysgol cyfoethog hefyd, gan ddarparu deunyddiau, rhaglenni a thraethodau am ddim sy’n trin a thrafod celf gyfoes ac artistiaid y maes.

    www.art21.org

    Mae’r dudalen Teaching ar wefan art 21 yn cynnig traethodau, geirfa dda a chanllaw i addysgwyr i gyd-fynd â’r rhaglen “Art in the Twenty-First Century” ond mae’n adnodd addysg da iawn am gelf gyfoes ynddo’i hun hefyd.

    www.art21.org/teach

    Traethawd defnyddiol sy’n trafod rhai o’r elfennau a chwestiynau allweddol sy’n ymwneud ag ymarfer celf gyfoes.

    www.art21.org/teach/on-contemporary-art/contemporary-art-in-context

  • Arts Awards

    Mae’r Arts Award ar gael ar bum lefel, felly gall plant a phobl ifanc 7-25 oed roi cynnig ar gelf o unrhyw fath yn cynnwys y celfyddydau perfformio, celfyddydau gweledol, llenyddiaeth, y cyfryngau ac aml-gyfrwng. Mae’r dyfarniad yn magu hyder, yn helpu pobl ifanc i fwynhau gweithgareddau diwylliannol ac yn eu paratoi ar gyfer addysg bellach neu’r byd gwaith.

    www.artsaward.org.uk

  • Artquest

    Mae Artquest yn rhoi gwybodaeth i helpu i ysgogi’ch ymarfer creadigol ac i helpu artistiaid i ffynnu ar rai o’r incymau isaf yn y sector creadigol. Adnodd sy’n cael ei ddarparu gan artistiaid ar gyfer artistiaid yw Artquest ac mae’n bont rhwng bywyd myfyriwr a bywyd gwaith cynaliadwy.

    www.artquest.org.uk

  • Arts thread

    Adnodd addysgol ar-lein yw Arts thread. Ei nod yw cysylltu myfyrwyr, graddedigion, prifysgolion a diwydiant ym maes dylunio.

    www.artsthread.com

  • Axis

    Gwybodaeth am artistiaid a gwneuthurwyr sy’n byw ac yn gweithio ym Mhrydain. Mae’r wefan yn cynnwys proffiliau o artistiaid a churaduron proffesiynol, cyfweliadau, trafodaethau a newyddion o’r byd celf, ac mae’n rhoi sylw i’r artistiaid y dylem ni gadw llygaid arnynt.

    www.axisweb.org

  • Bima

    Mae Bima’n cefnogi ac yn hyrwyddo diwydiant digidol Prydain drwy rannu arferion gorau a gwobrwyo gwaith newydd ac arloesol. Mae’r wefan yn esbonio gwaith y corff ac yn rhoi cyngor gyrfaoedd defnyddiol a ‘diwrnodau agored’ (D-Days) ar gyfer myfyrwyr ac ysgolion.

    www.bimadday.org.uk

  • Careers Box

    Llyfrgell ar-lein am ddim o ffilmiau, newyddion a gwybodaeth yn ymwneud â gyrfaoedd yw Careersbox. Mae ffilmiau astudiaeth achos yn dangos pobl go iawn yn gwneud swyddi go iawn, gan roi cipolwg ar yrfaoedd ym mhob sector a helpu pobl i ddod o hyd i’r yrfa iawn iddyn nhw.

    www.careersbox.co.uk

  • Crafts Council

    Nod y Crafts Council yw gwneud y DU y lle gorau i greu, casglu a dysgu am grefft gyfoes. Chwiliwch am orielau, gwasanaethau busnes a rhwydweithiau yn y rhestr o sefydliadau, a chwiliwch yn yr adran gyfleoedd am gomisiynau, swyddi gwag a chyfleoedd i bobl gymryd rhan.

    www.craftscouncil.org.uk

  • Creative Boom

    Cyngor defnyddiol ar yrfaoedd ym maes celf gan y wefan ar gyfer y diwydiant creadigol, Creative Boom. Mae cyngor ar bob math o bethau, o ymdrin â chleientiaid anodd, hyrwyddo a sut i gael sylw i’ch gwaith.

    thecreativeboom.com

  • Creative Careers

    Mae Creative Careers yn mynd â chi tu ôl i lenni dwy arddangosfa ac yn cynnig ysbrydoliaeth, syniadau, sgiliau a phrofiad ymarferol mewn perthynas â gweithio mewn amgueddfeydd ac orielau. Mae yna ysbrydoliaeth ar gyfer aseiniadau, adnoddau go iawn a llwybrau gyrfa.

    cmd.npg.org.uk

  • Creative Futures

    Elusen gofrestredig yw Creative Futures a’i nod yw annog uchelgais a chyrhaeddiad ymhlith pobl ifanc gan ddefnyddio cerddoriaeth a’r celfyddydau. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd addysgol celf unigryw, gan feithrin cysylltiadau ag artistiaid a’r gymuned leol.

    www.creativefuturesuk.com

  • The Creative Review Handbook

    Cyfeiriadur mawr o ddoniau artistig cyffrous.

    www.chb.com/home

  • Cyngor Celfyddydau Cymru

    Elusen annibynnol a sefydlwyd gan Siarter Brenhinol ym 1994 yw Cyngor Celfyddydau Cymru. Ei waith yw sicrhau bod cyfraniad y celfyddydau’n cael ei gydnabod, ei werthfawrogi a’i ddathlu. Dyma gyswllt i restr ddefnyddiol o ddarparwyr addysg gelf yng Nghymru.

    www.artswales.org.uk

  • Cyngor Celfyddydau Lloegr

    Mae Cyngor Celfyddydau Lloegr yn cefnogi gweithgareddau amrywiol yn y celfyddydau, mewn amgueddfeydd a llyfrgelloedd – yn cynnwys theatr, celf ddigidol, darllen, dawns, cerddoriaeth, llenyddiaeth, crefftau a chasgliadau. Mae’r wefan yn rhoi cyngor, canllawiau a’r newyddion diweddaraf ar fentrau a phrojectau ledled Lloegr.

    www.artscouncil.org.uk

  • Cynllun Hyfforddai Dylunio

    Mae Cynllun Hyfforddai Dylunio’r BBC yn helpu newydd-ddyfodiaid i ddatblygu sgiliau dylunio ym maes gwisgoedd, colur, dylunio rhyngweithiol a’r adran gelf. Hyfforddeion Dylunio’r BBC yw rhai o’r doniau dylunio newydd gorau yn y byd darlledu. Mae Hyfforddeion y gorffennol wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus yn y BBC a thu hwnt yn y diwydiant.

    www.bbc.co.uk/careers

  • Design Council

    Gyrfaoedd ym maes dylunio… y dylunydd a mwy. Mae’r diwydiant dylunio yn sector creadigol bywiog a deinamig llawn amrywiaeth ac mae’n chwarae rhan bwysig a dylanwadol yn ein bywydau.

    www.designcouncil.org.uk

  • NSEAD- National Society for Education in Art & Design

    Os ydych chi’n addysgu celf, crefft neu ddylunio mewn ysgolion cynradd neu uwchradd, neu ym maes addysg bellach neu uwch – yn enwedig addysgwyr athrawon – dyma’r wefan i chi.

    https://www.nsead.org/

  • Prifysgol y Celfyddydau Creadigol

    Cyngor i fyfyrwyr ar greu portffolio gan yr UCA.

    www.ucreative.ac.uk/portfolio

  • Prospects

    Graduate Prospects yw’r prif ddarparwr gwybodaeth, cyngor a chyfleoedd i fyfyrwyr a graddedigion y DU. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth helaeth am swyddi yn y diwydiant creadigol, gyda gwybodaeth fanwl am bethau fel gofynion mynediad, cyflogau a chyfleoedd datblygu gyrfa.

    www.prospects.ac.uk

  • Recreative

    Mae Recreative yn cynnig cipolwg ar y byd celf proffesiynol, ond yn anad dim mae’n gymuned ar-lein lle gall pobl ifanc rannu ac arddangos eu gwaith.

    www.recreativeuk.com

  • Target jobs

    Popeth y mae angen i chi ei wybod am swyddi graddedigion ym maes celf a dylunio. Eisiau gwybod pa feysydd allech chi weithio ynddyn nhw, neu ba fath o waith allech chi ei wneud? Cewch yr atebion i’ch cwestiynau yma.

    targetjobs.co.uk

  • Tate’s Turbine Generation

    Project yn ymwneud â chydweithredu rhyngwladol yw’r Unilever Series: turbine generation. Mae’n cysylltu ysgolion, orielau, artistiaid a sefydliadau diwylliannol ar draws y byd ac mae’n gysylltiedig â’r comisiwn blynyddol sy’n gwahodd artist i greu darn o waith ar gyfer Turbine Hall y Tate Modern oriel y Turbine Generation yn cyflwyno’i harddangosfa sy’n dangos sut y gwnaeth myfyrwyr, artistiaid ac orielau ifanc, hen a newydd o bedwar ban byd ymateb i’w thema flynyddol.

    turbinegeneration.tate.org.uk

  • Transition Tradition

    Ar gyfer myfyrwyr a graddedigion creadigol sy’n camu o’r Brifysgol i fyd gwaith. Ceir erthyglau am brofiadau personol, a chyfweliadau ac erthyglau’n mynegi barn gan academyddion, awduron ac artistiaid.

    www.transitiontradition.com

  • UCAS

    Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau. Sefydliad canolog y DU sy’n prosesu ceisiadau addysg uwch. Cliciwch yma am restr o gyrsiau Celf Sylfaen.

    www.ucas.ac.uk

  • DiscoverUni

    DiscoverUni yw’r wefan swyddogol i’ch helpu o wneud dewis gwybodus wrth benderfynu pa brifysgol neu goleg yn y DU i wneud cais iddi/iddo. Mae’n cynnwys canlyniadau’r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol diweddaraf. Gallwch weld faint o raddedigion sy’n gadael ac yn cael gwaith a pha mor fodlon yw myfyrwyr â’u profiad addysgol.

    https://discoveruni.gov.uk/