Canolbwynt ar Ddylunydd / Ddarlunydd

Lee John Phillips

instagram.com/leejohnphillips

Athro Celf a Dylunydd Graffeg a Darlunydd yw Lee John Phillips. Mae ei ‘Shed Project’ yn cofnodi cynnwys sied ei ddiweddar dad-cu fesul eitem. Mae’r prosiect wedi cael sylw cenedlaethol yn y cyfryngau ac mae wedi esgor ar broffiliau o Phillips a’i waith cyn belled â Gwlad Belg, Japan, ac Awstralia. Mae Lee yn arddangos yn helaeth ac mae wedi creu’r ‘Tool-shed Journal’, a hefyd y ‘Tool-shed Colouring Book’. Efallai mai hwn yw’r llyfr lliwio cyntaf sydd wedi’i anelu at wrywod, ac mae’n cynnwys 50 darlun o’i ‘Shed Project’.