Fideos Asesu

Yma, mae cysylltiadau i’n fideos asesiad sy’n darparu arweiniad wrth asesu cyflwyniadau ar gyfer yr ystod o gymwysterau TAG UG/U a TGAU sydd ar gael. TAG: Ymholiad Creadigol Personol, Ymchwiliad Personol ac Aseiniad Gosod yn Allanol; a TGAU: Portffolio ac Aseiniad Gosod yn Allanol.

Mae’r arweiniad yn ymdrin â’r saith teitl gwahanol sy’n cael eu cynnig gan CBAC ac Eduqas. Y rhain yw

  • Celf, Crefft a Dylunio
  • Celfyddyd Gain
  • Astudiaethau Beirniadol a Chyd Destunol
  • Dylunio Tecstilau
  • Cyfathrebu Graffeg
  • Dylunio 3D
  • Ffotograffiaeth

Pwrpas y deunydd arweiniad hwn yw darparu cymorth defnyddiol a hyfforddiant safoni mewnol i athrawon a thiwtoriaid gan sicrhau dilysrwydd a dibynadwyedd asesiad athrawon. Gall y fideos hefyd cael eu defnyddio am fwy o wybodaeth ynglŷn â dulliau myfyrwyr ac asesu cyfoedion a hunanasesu.

CBAC UG a Safon Uwch
CBAC TGAU A*-G