UG/Safon Uwch Celf a Dylunio Eduqas

Lluniwyd y manylebau UG Celf a Dylunio Safon Uwch Celf a Dylunio i’w haddysgu o 2015 i gynnig profiadau dysgu creadigol sy’n ddeniadol ac arloesol, lle mae arfer celf, crefft a dylunio yn cael ei gyfuno’n ystyrlon â gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol.

Mae’r fanyleb hon yn rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr ddatblygu sylfaen eang o sgiliau beirniadol, ymarferol a damcaniaethol ar safon UG. Mae hyn yn cynnig dealltwriaeth gyfannol iddyn nhw o amrediad o ymarferion a chyd-destunau ym meysydd celf, crefft a dylunio gweledol. Penllanw hyn yw mwy o arbenigo a chyflawni’n well ar safon Uwch.

Mae dogfennau Deunyddiau Asesu Enghreifftiol Celf a Dylunio UG a Deunyddiau Asesu Enghreifftiol  (DAE) Celf a Dylunio Safon Uwch yn disgrifio sut asesir un gydran, Ymholiad Creadigol Personol, ar gyfer UG, a’r ddwy gydran, Ymchwiliad Personol ac Aseiniad wedi’i Osod yn Allanol, ar gyfer Safon Uwch. Mae’r DAE yn nodi:

  • cynllun marcio ar gyfer un gydran UG, yr Ymholiad Creadigol Personol
  • cynllun marcio ar gyfer Cydran 1 Safon Uwch, yr Ymchwiliad Personol
  • cynllun marcio ar gyfer Cydran 2 Safon Uwch, yr Aseiniad wedi’i Osod yn Allanol
  • enghraifft o Gydran 2 Safon Uwch, yr Aseiniad wedi’i Osod yn Allanol a’r cynllun marcio sy’n gysylltiedig ag ef;
  • cynnwys dangosol sy’n berthnasol i’r gwaith a gyflwynir ar gyfer Cydrannau UG a Safon Uwch.

Nod y Canllawiau i Athrawon ar gyfer UG/Safon Uwch Eduqas i’w addysgu o 2015 yw cynnig cymorth i athrawon wrth gyflwyno’r fanyleb newydd ac arweiniad o ran gofynion y cymhwyster a’r broses asesu. Ni fwriedir iddynt fod yn gyfeirbwynt cynhwysfawr, ond yn hytrach bwriedir iddynt helpu athrawon i ddatblygu cyrsiau ysgogol a chyffrous sydd wedi’u teilwra i anghenion a sgiliau’r myfyrwyr yn eu sefydliadau penodol. Maen nhw’n cynnwys cyngor ar addysgu a dysgu da, rhestri gwirio ar gyfer yr amcanion asesu, cynnwys dangosol i bob teitl, y newidiadau o’r manylebau blaenorol, cyngor ar luniadu ac ysgrifennu estynedig a’r atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin.