TAG UG/Uwch Celf a Dylunio CBAC

Lluniwyd y fanyleb TAG UG a Safon Uwch mewn Celf a Dylunion i’w haddysgu o 2015 i gynnig profiadau dysgu creadigol sy’n ddeniadol ac arloesol, lle mae arfer celf, crefft a dylunio yn cael ei gyfuno’n ystyrlon â gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol.

Mae’r fanyleb hon yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu sylfaen eang o sgiliau beirniadol, ymarferol a damcaniaethol ar safon UG. Mae hyn yn cynnig dealltwriaeth gyfannol iddyn nhw o amrediad o ymarferion a chyd-destunau ym meysydd celf, crefft a dylunio gweledol. Penllanw hyn yw mwy o arbenigo a chyflawni’n well ar safon Uwch.

TAG UG a Safon Uwch Celf a Dylunio. Mae’r ddogfen Deunyddiau Asesu Enghreifftiol (DAE) yn disgrifio sut asesir un uned, yr Ymholiad Creadigol Personol, ar gyfer UG, a dwy uned, yr Ymchwiliad Personol a’r Aseiniad wedi’i Osod yn Allanol, ar gyfer Safon Uwch. Mae’r DAE yn nodi:

  • cynllun marcio ar gyfer Uned 1, yr Ymholiad Creadigol Personol;
  • cynllun marcio ar gyfer Uned 2, yr Ymchwiliad Personol;
  • enghraifft o Uned 3, yr Aseiniad wedi’i Osod yn Allanol a’r cynllun marcio sy’n gysylltiedig ag ef;
  • cynnwys dangosol sy’n berthnasol i’r gwaith a gyflwynir ar gyfer pob un o’r tair uned.

Nod y Canllawiau i Athrawon ar gyfer TAG UG/Safon Uwch i’w addysgu o 2015 yw cynnig cymorth i athrawon wrth gyflwyno’r fanyleb newydd ac arweiniad o ran gofynion y cymhwyster a’r broses asesu. Ni fwriedir iddynt fod yn gyfeirbwynt cynhwysfawr, ond yn hytrach bwriedir iddynt helpu athrawon i ddatblygu cyrsiau ysgogol a chyffrous sydd wedi’u teilwra i anghenion a sgiliau’r myfyrwyr yn eu sefydliadau penodol. Maen nhw’n cynnwys cyngor ar addysgu a dysgu da, rhestri gwirio ar gyfer yr amcanion asesu, cynnwys dangosol i bob teitl, y newidiadau o’r manylebau blaenorol, cyngor ar luniadu ac ysgrifennu estynedig a’r atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin.