Coleg Meirion Dwyfor (Tecstilau) Anrhydedd – Prif Broject Terfynol Sylfaen

Catrin Eluned Jones – Tecstilau

 

Prif themâu’r project hwn yw plentyndod a bywyd o dan y môr. Mae’r gwaith gorffenedig yn cynnwys casgliad o bum ffrog i blant a lluniau ar gyfer llyfr stori am sglefren fôr o’r enw Eli. Mae’r ffrogiau a’r stori yn cydblethu ac yn adlewyrchu ei gilydd er mwyn rhoi cyfle i blant flasu a dod yn rhan o fyd llawn dychymyg adrodd stori. Project ar gyfer plant yn bennaf yw hwn, felly dewisais ddefnyddio palet eang ac amrywiaeth eang o ffabrigau. Mae modd gwisgo’r holl ffrogiau ond maen nhw hefyd yn gweithio fel gosodiadau drwy ychwanegu sglefrod môr crog sydd wedi’u gwneud o’r ffabrigau a ddefnyddiais wrth greu’r ffrogiau. Prif dechneg fy ngwaith darlunio oedd paentio’r cefndir cyn ychwanegu collage a brodwaith peiriant, gan orffen gydag ychydig o eitemau 3 dimensiwn cyffyrddol a fyddai’n apelio at blant.