Coleg Brenin Edward VI – Patrwm Arwyneb/Tecstilau/Gosodiad

Katie Jarvis – Casgliad Hufen iâ a ffrwythau

Prif Broject Terfynol Sylfaen Nodedig

Wedi fy ysbrydoli gan hufen iâ a ffrwythau a gwyliau glan-môr fy nheulu yn yr 1960au a’r 1970au, fy nod oedd creu Casgliad Gwyliau Haf Prydeinig a fydd yn dod ag atgofion yn ôl i’r gwyliwr a’i helpu i ddianc o fywyd bob dydd. Ar ôl edrych ar hen ffotograffau o wyliau’r teulu, des i’r casgliad fod cytiau traeth yn ymgorfforiad o’r ddelwedd draddodiadol o wyliau Prydeinig. Es ati i sgrin-brintio a brodio casgliad o ddyluniadau patrwm arwyneb addurnol sy’n gydgyfnewidiol ac yn ategu ei gilydd, gan apelio at farchnad lle mae perchnogion tai yn chwilio am ddyluniadau sydd ychydig yn wahanol i’r arfer ac yn fwy unigol ac arddulliedig.