InSEA
Sefydliad anllywodraethol yw’r Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Addysg drwy Gelf (The International Society for Education through Art) (InSEA) a phartner swyddogol Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig (UNESCO). Mae InSEA yn gymdeithas fyd-eang i’r rhai sy’n ymwneud ag addysg gelf sy’n credu bod angen rhannu profiadau, gwella arferion a chryfhau sefyllfa celf mewn perthynas â phob addysg.