Hygyrchedd

Anelwn ddarparu gwefan sy’n hygyrch i’w holl ymwelwyr. Mae Deddf Anabledd a Chydraddoldeb 2010 yn dweud yn ddiamwys fod yn rhaid i wefannau sector preifat a chyhoeddus fod yn hygyrch yng nghyswllt darpariaeth gwasanaethau ar-lein.

Mae’r cynllun yn rhoi ystyriaeth i ddefnyddwyr cyfrif sy’n rhannol ddall neu sy’n cael anhawster yn defnyddio llygoden. Fe’i datblygwyd i gyd-fynd gyda meddalwedd poblogaidd darllen sgrîn a medrir mynd o’i amgylch yn rhwydd yn defnyddio bysellfwrdd yn unig.

Cysylltwch â ni os dymunwch roi adborth fel y medrwn barhau i wella hygyrchedd y wefan hon.

Cydymffurfiaeth

Ymdrechwn i gydymffurfio, fel isafswm, gyda chydymffurfiaeth Lefel A-Ddwbl fel y nodir yng Nghanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 1.0 W3C. Mae hyn hefyd yn cynnwys gweithredu nifer o bwyntiau gwirio Blaenoriaeth 3.

Yn gyffredinol, mae’r safle yn cydymffurfio â graddiad Lefel A-Ddwbl WAI lle defnyddir HTML. Lle mae dogfennau ar gael mewn fformatau eraill megis Adobe Acrobat, ni chyflawnwyd cydymffurfiaeth.

Nodweddion hygyrchedd

  • Ysgrifennwyd cysylltau i wneud synnwyr pan y’u darllenir allan o’u cyd-destun.
  • Mae gan bob delwedd a ddefnyddiwyd yn y safle hwn gyfwerthau testun priodol.
  • Defnyddiwyd dalenni arddull rhaeadr ar gyfer cynllun a chyflwyniad
  • Ffurfiwyd pob tudalen fel y medrir ei darllen heb ddalenni arddull.
  • Mae’r safle yn defnyddio meintiau ffont cymharol i alluogi’r defnyddiwr i nodi “maint testun” mewn porwyr gweledol.
  • Mae pob ffurflen yn dilyn dilyniant Tab rhesymegol.
  • Mae labeli yn gysylltiedig gyda meysydd mewn ffurflenni HTML.
  • Cynhwyswyd map safle i roi gwybodaeth am weddlun cyffredinol y safle.

Cyfeiriadau hygyrchedd