Proffiliau Swyddi

Mae amrywiaeth mawr yn yr amrediad o swyddi sydd ar gael yn sectorau celf, crefft, dylunio a chyfryngau’r diwydiant creadigol.

Mae’r safleoedd canlynol yn darparu mewnwelediadau defnyddiol iawn ynghylch cyfleoedd gyrfa.

Ateba Creative Journeys, a gynhyrchir gan The Sorrell Foundation, y cwestiwn ‘A allai astudio celf a dylunio arwain at swyddi go iawn?’ Mae gan y ffilm ddolenni i rai o ddylunwyr, penseiri a pheirianwyr mwyaf blaenllaw’r DU gan gynnwys unigolion eraill sydd ar frig eu proffesiwn, yn trafod sut y dechreuon nhw a sut y gallai dewisiadau ar gyfer TGAU ddechrau taith greadigol.

 

Mae gan wefan y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Addysg mewn Celf a Dylunio nifer o astudiaethau achos o Sut fath o brofiad yw e i weithio mewn celf, crefft a dylunio? Mae pob enghraifft wedi’i gysylltu at adnoddau dysgu.

Mae gwybodaeth ynglŷn â chyrsiau mewn celf, dylunio a chyfryngau i’w gweld ar wefan Universities and Colleges Admission Service (UCAS). Prif rôl UCAS yw gweithredu’r broses ymgeisio ar gyfer prifysgolion Prydain. Mae’r wefan yn cynnwys pyrth ymgeisio ar-lein, nifer o beiriannau ymchwilio, a gwybodaeth a chyngor am ddim wedi’i aneli at amryw gynulleidfaoedd, gan gynnwys myfyrwyr sy’n ystyried addysg uwch, myfyrwyr sy’n aros i glywed am eu ceisiadau at sefydliadau addysg uwch, rhieni a gwarcheidwaid cyfreithiol ymgeiswyr, staff ysgol ac addysg bellach sy’n cyfrannu at helpu myfyrwyr ymgeisio, a darparwyr addysg uwch (prifysgolion a cholegau AU).