Archif Genedlaethol Addysg y Celfyddydau

Sefydlwyd Archif Genedlaethol Addysg y Celfyddydau (National Arts Education Archive) yn 1985 yng Ngholeg Bretton Hall. Erbyn hyn mae’n gangen o Barc Cerfluniau Swydd Efrog (Yorkshire Sculpture Park, YSP). Mae’r Archif yng Nghanolfan Lawrence Batley yn yr YSP ac mae’n cynnwys dros 100 o gasgliadau unigol sy’n ymwneud â’r celfyddydau ym maes addysg. Yn y catalog cronfa ddata o’i chynnwys mae cofnodion ar gyfer 28,000 o eitemau’r casgliad o lu o wahanol fathau, o baentiadau a lluniadau i sleidiau ffotograffig a recordiadau sain neu fideo, a hefyd mae’n cynnwys llawer o eitemau wedi’u hargraffu ac eitemau llawysgrifen.

www.artsedarchive.org.uk