Amodau a Thelerau

WJEC/CBAC yw enw masnachu WJEC CBAC Limited,cwmni a gyfyngir trwy warant, a reolir gan awdurdodau unedol Cymru. Mae’r Swyddfa Gofrestredig yn 245 Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YX. Cofrestrwyd y cwmni yng Nghymru a Lloegr Rhif 3150875.

Gellir ond defnyddio’r wefan hon yn ôl y Telerau ac Amodau canlynol:

  1. Mae’r ffaith eich bod chi’n defnyddio’r wefan yn golygu eich bod yn derbyn y Telerau a’r Amodau hyn fel y maent ar ddyddiad eich ymweliad cyntaf â’r wefan.
  2. Cedwir yr hawl gan CBAC i newid y Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg trwy ddangos y newidiadau ar lein. Mae’r ffaith eich bod yn parhau i ddefnyddio’r wefan hon ar ôl i’r newidiadau gael eu gwneud yn golygu eich bod yn derbyn y cytundeb diwygiedig.
  3. Nid yw CBAC yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau Rhyngrwyd allanol.
  4. Mae CBAC yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan hon yn gywir. Fodd bynnag, ni all CBAC dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb y cynnwys. Mae ymwelwyr sy’n dibynnu ar y wybodaeth hon yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain.
  5. Mae CBAC yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam cynhyrchu. Doeth pob amser fodd bynnag yw i ddefnyddwyr redeg rhaglen gwrth-firws ar bob deunydd a lwythir i lawr o’r Rhyngrwyd. Tra bod hyn yn annhebygol iawn, ni all CBAC dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd tra’n defnyddio deunydd o wefan CBAC.
  6. CBAC sydd â’r hawlfraint am yr holl ddeunydd ar y wefan hon. Cedwir pob hawl. Ni ellir atgynhyrchu unrhyw ran o’r wefan hon ar unrhyw ffurf, na thrwy unrhyw ddull, heb ganiatâd ysgrifenedig blaenorol CBAC.
  7. Ymdrinnir ag unrhyw ddata personol a gesglir trwy’r wefan hon yn unol â Deddf Gwarchod Data 1998. Mae parhau i ddefnyddio’r wefan yn arwydd eich bod yn hapus i dderbyn cwcis CBAC.
  8. Rheolir y telerau ac amodau hyn a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfodau’n rhwym i awdurdod unigryw Llysoedd Cymru a Lloegr.